Swarms

What is a honey bee swarm and what does it look like?

Swarming is a natural phenomenon – it is how honey bees reproduce naturally. A big strong colony divides into two colonies and a large number of bees will leave the nest (which may be in a managed hive or in a natural cavity like a hollow tree) and seek a new nest site. 

A swarm is a spectacular sight but can be quite alarming to a non-beekeeper as many thousands of bees take to the air and swirl around before settling in a cluster such as the one shown in the photo.

Whilst a clustered swarm is generally quite calm, you should keep a safe distance from it and ensure that children and pets do likewise.  

Once a clustered swarm has identified a new nest site, the bees will take to the air again and move to their new home. This may happen within a few hours but may take a few days.  

Most of the swarms reported are not honey bees at all – they are Bumblebees or solitary bees which nest in a range of places including holes in air bricks or even in the ground. You will see these bees coming and going in much smaller numbers than in a honey bee swarm. 

Honey bees are also confused with wasps because they have a similar shape. However, wasps have distinct yellow/black bands around the abdomen whereas honey bees have a more non-descript light brown/brown-yellow colour. Bees tend to be ‘hairy’ to allow pollen to be gathered more easily whilst wasps tend to be bald and shiny in appearance.

Although honey bees are capable of stinging, they are generally not aggressive and will not sting unless provoked. They should ideally be left alone.

Wasps often build nests in sheds, garages and roof spaces. These nests can be very large and look like a large papery ball. If the nest is in current use there will be a steady stream of wasps entering and leaving, sometimes via a tiny hole in mortar or woodwork.   Removal of wasp nests is a specialist job for a pest controller and beekeepers will not usually assist with the removal of these.

These photos may help with identification.

Bumble bee
Wasp
Honey bee
Mason bee

If you have a swarm of honey bees and want it to be removed you can ask a beekeeper to do that. Provided the swarm can be reached safely, beekeepers are normally happy to collect and rehome the bees. You can use our swarm contacts map to identify a nearby beekeeper. 

Most beekeepers are hobbyists and those who collect swarms of honey bees do so voluntarily. Help them by providing some basic information when you call.  

What do the bees look like and how many are there? Provide pictures if at all possible.

Where are they and how long have they been there?

Are there any access issues? Are the bees on your property or somewhere else? Are they at a height so a ladder would be required? 

 Find a beekeeper using our  Swarm contacts map below   orif no-one is shown in your area,   click here to visit the local association pages  to find your nearest local association.




Beth yw haid o wenyn mêl a sut mae’n edrych?

Mae heidio yn ffenomen naturiol – dyma sut mae gwenyn mêl yn atgenhedlu’n naturiol. Mae cytref fawr gref yn ymrannu’n ddwy gytref a bydd nifer mawr o wenyn yn gadael y nyth (a all fod mewn cwch wedi’i reoli neu mewn ceudod naturiol fel coeden gau) ac yn chwilio am safle newydd i nythu.

Mae haid yn olygfa ryfeddol ond mae’n gallu bod yn eithaf brawychus i rai nad ydyn nhw’n wenynwyr – mae miloedd lawer o wenyn yn codi i’r awyr ac yn ymdroelli cyn setlo’n glwstwr fel yr un sydd i’w weld ar y chwith. 

Er bod haid sy’n glwstwr fel arfer yn eithaf tawel, dylech chi gadw draw o’r haid a sicrhau bod plant ac anifeiliaid yn gwneud yr un fath. 

Ar ôl i haid sy’n glwstwr ddod o hyd i safle newydd i nythu, bydd y gwenyn yn codi i’r awyr eto ac yn symud i’w cartref newydd. Gall hyn ddigwydd cyn pen ychydig oriau ond gall gymryd rai dyddiau.

Efallai bydd y ffotograffau hyn yn eich helpu i adnabod beth sydd wedi heidio.  


Wasp
Bumble bee
Honey bee
Mason bee

Nid gwenyn mêl o gwbl yw’r rhan fwyaf o’r heidiau rydyn ni’n cael gwybod amdanyn nhw – cacwn (bumble-bees)  yw’r rhan fwyaf (sydd wir yn hoffi blychau nythu adar) neu wenyn unig sy’n gallu nyth mewn amrywiaeth o fannau, gan gynnwys mewn tyllau mewn briciau aer neu hyd yn oed yn y ddaear. Byddwch chi’n gweld y gwenyn hyn yn mynd ac yn dod. Bydd llawer llai o nifer nag y byddech chi’n disgwyl ei weld mewn haid o wenyn mêl.

Mae pobl hefyd yn cymysgu rhwng gwenyn mêl a gwenyn meirch oherwydd bod eu siâp yn debyg. Ond mae gan wenyn meirch fandiau melyn/du pendant o gwmpas yr abdomen tra mae gan wenyn mêl liw brown/melynfrown llai pendant. Mae gwenyn yn tueddu i fod yn “flewog” fel ei bod hi’n haws casglu paill, tra mae gwenyn meirch yn tueddu i edrych yn foel ac yn sgleiniog.

Mae gwenyn meirch yn aml yn adeiladu nythod mewn siediau, garejis a gwagleoedd yn y to. Mae’r nythod hyn yn gallu bod yn fawr iawn ac yn edrych fel pelen fawr wedi’i gwneud o bapur. Os yw’r nyth yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, bydd llif cyson o wenyn meirch yn mynd i mewn ac allan, weithiau drwy dwll bach mewn morter neu waith pren.   Gwaith arbenigol i reolwr plâu (pest controller) yw tynnu nythod gwenyn meirch ac fel arfer fydd gwenynwyr ddim yn helpu i’w tynnu nhw.

Os oes gennych chi haid o wenyn mêl ac os ydych chi eisiau cael gwared arni, gallwch ofyn i wenynwr wneud hynny. Os oes modd cyrraedd yr haid yn ddiogel, fel arfer mae gwenynwyr yn hapus i gasglu’r gwenyn ac i ddod o hyd i gartref newydd iddyn nhw. Gallwch chi ddefnyddio ein map heidio i chwilio am wenynwr lleol.

Mae’r rhan fwyaf o wenynwyr yn gwenyna fel hobi, ac mae’r rhai sy’n casglu heidiau o wenyn mêl yn gwneud hynny’n wirfoddol. Helpwch nhw drwy roi ychydig o wybodaeth sylfaenol pan fyddwch chi’n ffonio.  

Sut mae’r gwenyn yn edrych a faint ohonyn nhw sydd?  Anfonwch ffotograffau os yw hynny’n bosibl.

Ble maen nhw a pha mor hir maen nhw wedi bod yno?

Oes problem o ran eu cyrraedd nhw?  Ydy’r gwenyn ar eich eiddo chi neu yn rhywle arall? Ydyn nhw i fyny’n uchel, felly a fyddai angen ysgol?   

Dewch o hyd i wenynwr gan ddefnyddio’r Map cysylltiadau heidio  neu, os nad oes gwenynwr yn cael ei ddangos yn eich ardal chi, cliciwch  yma i ymweld â thudalennau’r cymdeithasau lleol er mwyn dod o hyd i’r gymdeithas leol sydd agosaf atoch chi.

Swarm Contacts Map

Enter your postcode to find your nearest honey bee swarm collectors. 

Click on a red pin to see their phone number and postcode. The map zoom button is in the lower right corner.

if no-one is shown in your area,  click here to visit the local association pages to find your nearest local association.

If you phone, be ready to say where the swarm is, how high it is above the ground, how long it has been there, and whether it is on your property.

This infographic may be helpful to members who are contacted by the public about swarms