Annual Report 2018cymreag

CYMDEITHAS GWENYNWYR CYMRU

THE WELSH BEEKEEPERS’ ASSOCIATION

Sefydlwyd/Established 1943                Elusen Gofrestredig Rhif 509929

Adroddiad Blynyddol ~ Ionawr y 1af 2018 hyd Ragfyr yr 31ain 2018

Cadeirydd: David John Bowles

Is-gadeirydd: Lesley Williams (cyfetholwyd August 2017) (Ymddiswyddodd Mehefin 2018)

Trysorydd: Graham Wheeler (etholwyd CCA 7.11.15)

Ysgrifennydd Cyffredinol: Stephen Cox (Penodwyd Ebrill 2018)

Ymddiriedolwyr:

David John Bowles        (etholwyd CCB 2014)

Graham Wheeler           (etholwyd CCB 2014)

Christopher Clarke        (etholwyd CCB 2016)

Lesley Williams            (etholwyd CCB 2016) (Ymddiswyddodd Mehefin 2018)

Peter Elvis                  (etholwyd CCB 2017)

Gordon Lumby            (etholwyd CCB 2017)

Keith Davies                (cyfetholwyd Ebrill 2017, cadarnhadwyd yn CCA Mehefin y 24ain 2017)

Stephen Cox               (cyfetholwyd Mehefin 2018)

Rachael Kellaway         (cyfetholwyd Mehefin 2018)

Swyddogion:

Llywydd: Tony Shaw                                    (etholwyd CCB 2016)

Is-lywydd: Fred Eckton

Ysgrifennydd Aelodaeth: David Kennedy

Ysgrifennydd Cofnodion: Jill Hill

Ysgrifennydd Achlysuron: Jill Wheeler                 (penodwyd 11.09.15)

Ysgrifenyddion Arholiadau: Caroline Mullinex a Rachael Kellaway

Rheolwr Gwefan: Nigel Dailey                              (penodwyd June 2017)

Golygydd: Nigel Dailey

Is-olygydd: Elin Meek                                         (penodwyd 7.12.15)

Swyddog Technegol: Wally Shaw

Swyddog Yswiriant: John Bowles

Swyddog Iechyd a Diogelwch: John Pilgrim (penodwyd 2016)

Swyddog Cyhoeddusrtwydd a’r Wasg: Yn wag

Archif CGC: Yn wag

Swyddog COLOSS CGC: Garth Evans                    (penodwyd AGM 2017)

Swyddog Cyswllt Lladrad: Lee Vickers                 (cyfetholwyd April 2018)

Mae pob ymddiriedolwr, swyddog CGC a chynorthwywyr eraill yn rhoi o’u hamser yn wirfoddol, ac ni dderbyniant unrhyw dâl na buddion eraill. Mae CGC yn ddyledus i’r gwirfoddolwyr hyn am eu hewyllys da a’u hymdrechion parhaus ar ran y Gymdeithas. Mae’r Ymddiriedolwyr yn rhoi sylw i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Elusennau ynghylch budd cyhoeddus.

Ein Nodau a’n Hamcanion:

Annog, gwella a hyrwyddo gwenyna ledled Cymru trwy:

  • Ddatblygu cydweithrediad ymysg holl wenynwyr Cymru gyfan a chyfnewid syniadau a phrofiadau;
  • Gwella safon gwenyna trwy:
  • Gyhoeddi llenyddiaeth;
  • Darparu a chefnogi darparu offer a deunyddiau gwenynol addysgiadol;
  • Annog hyfforddi a chymhwyso gwenynwyr;
  • Trefnu arholiadau cenedlaethol ar amryw raddau;
  • Annog cyfranogaeth gymunedol mewn sylwi ar wenyn a dysgu amdanynt mewn modd diogel;
  • a datblygu gwerthfawrogi gwerth gwenyn yn yr amgylchedd.

Gweinyddiaeth:

 Ceir rhestr o gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn ar ddiwedd yr adroddiad hwn.

Cyfarfu’r Ymddiriedolwyr â Chyngor CGC deirgwaith (Mawrth, Mehefin a Thachwedd) er mwyn rhoi gwybod am weithgareddau’r Tîm Rheoli a cheisio arweiniad gan yr aelodaeth. Cynrychiolwyd lleiafswm o 60% (11) o Aelod-Gymdeithasau CGC ym mhob un o’r cyfarfodydd hyn, ond ar y cyfan dim ond  68% (13 o 19) o’r Cymdeithasau ddaeth i o leiaf un cyfarfod, i lawr o 80% y llynedd. Rhaid i 50% o’r Cymdeithasau yrru cynrychiolydd i Gyfarfodydd Cyngor er mwyn cael cworwm. Pe bai gostyngiad cyffelyb dros y flwyddyn i ddod ni fyddai CGC bellach yn hyfyw, gan na fyddai’n gynrychioladol o’i haelodaeth.

Cylchredwyd cofnodion pob cyfarfod Tîm Rheoli i ysgrifenyddion cymdeithasau.

Trefnir o leiaf tri chyfarfod Cyngor yn 2019, y cyntaf ar yr 2il o Fawrth yn dilyn y CCB. Yna ar Fehefin y 29ain a Thachwedd? 2019.

Bydd y Tîm Rheoli’n cyfarfod o leiaf pedair gwaith yn 2019, y tro cyntaf ar ddydd Mercher y 9fed o Ionawr ym Mhlas Dolguog.

Mae cyfarfodydd y Tîm Rheoli’n adlewyrchu argaeledd a chyfeiriadau cartref yr Ymddiriedolwyr, er mwyn sicrhau y gall y nifer fwyaf ddod, a chadw treuliau teithio cyn ised ag y bo modd. Y man presennol yw Gwesty Plas Dolguog, Machynlleth, ond os yw rhagor o Ymddiriedolwyr o’r de yn ymuno â’r tîm efallai y bydd angen adolygu hynny yn y dyfodol.

Mae trafferthion sicrhau bod cworwm yn bresennol ar gyfer y Tîm Rheoli yn parhau i fod yn ffactor o bwys, serch cynnydd yn nifer yr Ymddiriedolwyr. Roedd hyn yn bennaf oherwydd salwch Ymddiriedolwr neu salwch difrifol aelod o’u teulu, felly nid oedd modd ei osgoi. Rhaid mynegi diolch i’r Ymddiriedolwyr a’r Swyddogion hynny sy’n mynychu cyfarfodydd Tîm Rheoli’n gyson.

Cydymdeimlwn ag un o’n Hymddiriedolwyr, Chris Clarke, a gollodd ei wraig wedi gwaeledd hir.

Mae’r cynnydd yn nifer yr Ymddiriedolwyr ac yn enwedig Stephen Cox yn gwirfoddoli i fod yn Ysgrifennydd Cyffredinol inni’n gwneud bywyd rhywfaint yn haws, a bydd hyn yn parhau wrth iddo ysgwyddo swyddogaeth fwy. Bydd Stephen hefyd yn hwyluso’r symudiad i Gadeirydd newydd yn 2020.

Mynegir pryder yn aml ein bod ni’n methu â denu’r rhai sy’n wenynwyr ond na ddymunant, i bob golwg, ymuno â Chymdeithas. Yn gyffelyb, mynegwyd pryder ynghylch crebachiad aelodaeth rhai Cymdeithasau (mae nifer cyffredinol yr aelodau, fodd bynnag, wedi aros yn eithaf sefydlog serch y llanw a’r trai arferol sy’n effeithio ar bob corff cyffelyb). Tynnwyd sylw at y ffaith mai mater i Aelod Gymdeithasau yw recriwtio lleol, felly da nodi bod yr aelodaeth gyffredinol wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf gan 7.6%. Mae pob Cymdeithas ond dau wedi cynyddu’i haelodaeth, rhai’n sylweddol. Ceisiwn ddysgu beth y bu’r Cymdeithasau mwy llwyddiannus yn ei wneud i gynyddu eu haelodaeth yn sylweddol, a rhannwn yr wybodaeth honno ag eraill.

Rydym wedi trafod sut y gallem wneud aelodaeth o Gymdeithas yn fwy deniadol i wenynwyr eraill, ac nid eithriad mo eleni. Trafodasom hyn yn ein Cyngor fis Tachwedd, a phenderfynasom lunio taflen enerig i hyrwyddo aelodaeth o Gymdeithas. Cynhyrchir hon mewn pryd i Gymdeithasau ei hargraffu ar gyfer ei rhannu mewn achlysuron yn 2019.

Mae’r cynnig a wnaed yng Nghyfarfod Cyngor Mehefin 2017 i Ymddiriedolwyr ymweld â Chymdeithasau ledled Cymru i esbonio swyddogaeth CGC eto ar gael, er hyd yn hyn dim ond tair Cymdeithas sydd wedi ei dderbyn.

Yn ystod y flwyddyn cyflwynwyd Rheoliad Diogelu Data newydd ar raddfa Llywodraeth y DU. Roedd hyn, yn bennaf, yn ymateb i gamddefnyddio gwybodaeth bersonol a ddelir gan gyrff mawrion, ond fel y digwydd yn aml, roedd yn rhaid i gyrff llai, fel nyni a’n haelodau, weithredu. Cyhoeddwyd canllawiau gan CGC i gynorthwyo Aelod Gymdeithasau i ddatblygu polisïau a systemau i gydymffurfio â’r rheoliadau.

Gwelodd 2018 sawl cyrch gan Gacynen Asia ar hyd glannau de Lloegr. Ymddengys fod yr Uned Wenyn Genedlaethol wedi ymateb yn rhagorol i’r cyrchoedd hyn, a hyd yma ni chafwyd gwybod am ragor o nythod, a hon fyddai’r adeg o’r flwyddyn pan fyddent yn fwy gweladwy yn y coed brignoeth. Fe’n galluogwyd ni gan wybodaeth a ddarparwyd gan ein Harolygydd Gwenyn Rhanbarthol i gyhoeddi canllawiau i’n Haelod Gymdeithasau. Adolygwn y canllawiau hyn yn ystod y misoedd i ddod.

Bu digwyddiad anarferol y llynedd pan dderbyniasom gais gan Ardd Fotanegol Genedlaethol Cymru i fod yn Aelod Arbenigol o Gymdeithas Gwenynwyr Cymru. O gofio’r gwaith a wnaed gan GFGC ar faterion yn ymwneud â gwenyna, bu’r Cyngor yn fodlon iawn cymeradwyo’r cais hwn, felly mae yna bellach 20 ohonom.

Ni fyddai unrhyw adroddiad ynghylch gweithgareddau CGC yn 2018 yn gyflawn heb grybwyll y dathliad 75ain Pen-blwydd yn Aberystwyth. Bydd rhagor o fanylion yn yr Adroddiad Digwyddiadau, ond awgrymodd yr holl adborth y bu’n achlysur llwyddiannus iawn a werthfawrogwyd yn fawr. Cawsom siaradwyr rhagorol, llety o’r gorau a Chinio Mawreddog dymunol dros ben. Awgrymwyd y gallem wneud hwn yn achlysur blynyddol! Er, ni allai’r trefnwyr a’r cynorthwywyr eraill ddioddef y straen, er y gellid ystyried achlysur pob 5 mlynedd, os yw’r Aelodau’n cydsynio. Diolchwn i’r rhai fu’n cynorthwyo gyda’r trefnu o flaen llaw, a’r rhai fu’n cynorthwyo yn ystod yr achlysur.

Cronfeydd Ariannol:

Dywed y polisi Cronfa y bydd i’r Elusen (CGC) gadw cronfa wrth gefn o £10,000-£13,000. Rhaid wrth y gronfa hon yn ôl Cyfraith Elusennau er mwyn talu costau gweithredol a chytundebol pe bai angen. Arolygir a diweddarir y polisi hwn yn flynyddol.

Defnyddir arian a ddelir yn y cyfrif cyfredol HSBC nid yn unig i dalu costau cynnal y Gymdeithas ond hefyd i ariannu amryw brosiectau a rhannu gwybodaeth, trwy amryw ddulliau, megis y wefan, cyhoeddiadau, a llyfrynnau.

Ceir adroddiad ariannol manwl gyda’r ddogfen hon (Atodiad B). Ymddiheurwn ei fod yn Saesneg yn unig, y tro hwn.

Llywodraethiant:

Yn ystod 2018, fel y dywedwyd uchod, gwelsom gynnydd cyffredinol yn nifer yr Ymddiriedolwyr, gan i Rachael Kellaway ymuno â ni ym Mehefin, ond nid ydym eto â nifer gyflawn.

Fe’n cynorthwywyd ni hefyd gan Jill Hill, a ddaeth yn Ysgrifennydd Cofnodion inni ar gyfer Cyfarfodydd Cyngor.

Mae methu â recriwtio nifer gyflawn yn broblem barhaus, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Bu’n rhaid i Lesley Williams ymddeol o fod yn Ymddiriedolwr ac yn Ddirprwy Gadeirydd oherwydd salwch difrifol yn y teulu. Mae Peter Elvis, eisoes yn Ymddiriedolwr, wedi cytuno i fod yn Ddirprwy Gadeirydd am y tro. Golyga hyn fod y swydd hon yn wag, ac edrychwn ymlaen at dderbyn enwebiadau.

Y swydd arall y mae angen inni’i llenwi ar frys yw un Swyddog Arfarnu Gwenyna Sylfaenol.

Aelodaeth:

Mae gan CGC bedair Aelod-Gymdeithas ar bymtheg ac un gymdeithas arbennig sy’n cynrychioli 1,867 Aelod Anuniongyrchol. Yn rhan o’r tâl y pen a godir ar bob un Aelod Gymdeithas, mae’r Aelodau Anuniongyrchol yn cael budd trwy dderbyn pedwar rhifyn o ‘Gwenynwyr Cymru’ ac Yswiriant Atebolrwydd Trydydd Parti ac Atebolrwydd Cynnyrch. Ar hyn o bryd mae chwech ar hugain Aelod Unigol a saith Aelod Anrhydeddus o Gymdeithas Gwenynwyr Cymru. Ceir dadansoddiad manwl o’r aelodaeth gyda’r adroddiad hwn. (Atodiad A).

Gwefan:

Mae Nigel Dailey yn parhau i fod yn Wefeistr ac yn Olygydd, ac yr ydym yn ddiolchgar am hynny. Mae Nigel yn dda iawn am gynnull cynnwys ond yn teimlo’n llai hyderus wrth ddelio â llunio’r wefan. Os oes gennym aelod sydd â’r fath fedrau, ac ag awr neu ddwy’r flwyddyn i gyfrannu, byddai’n dda gennym glywed gennych. Byddem ddiolchgar hefyd am unrhyw awgrymiadau y carech eu gwneud ynghylch y wefan a’i hygyrchedd.

.Cylchgrawn Gwenynwr Cymru:

Mae Nigel yn parhau i wneud gwaith rhagorol wrth olygu Gwenynwr Cymru, heb fawr ddim cyfraniad gan Dîm Golygyddol sy’n cynnwys y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd Achlysuron a’r Ysgrifennydd. Mae’r cylchgrawn yn gyfle i aelodau ddweud eu dweud ar ddu a gwyn, pa un ai trwy lythyr at y Golygydd neu erthygl ar ryw agwedd ar wenyna. Cyfrannwch yr hyn a allwch, os gwelwch yn dda.

Cyhoeddiadau:

Unwaith eto rhaid inni ddiolch i Wally Shaw am ddiweddaru’r llyfryn Rheoli Crwybrau. Doedd gennym ni ddim yn weddill i’w rhannu i Gymdeithasau felly achubwyd y cyfle i ddiweddaru’r wybodaeth. Darfu inni gyhoeddi set gwell a mwy diweddar o’n cardiau Adnabod Clefydau a Phlâon, hefyd. Mae’r rhain bellach yn ddwyieithog, yn unol â’n polisi ni. Nid pethau rhad mo’r rhain, ac er y gallai hyn swnio’n wrthnysig, gobeithiaf na fydd arnoch eu hangen!

Cyfarfodydd:

 Cyfarfodydd Mewnol CGC 2018:

Chwefror 3ydd – Tîm Rheoli  – Ymddiriedolwyr a Swyddogion eraill (Dolgellau)

Mawrth 10fed – CCB, cyfarfod Cyngor a chyfarfod Pwyllgor Achlysuron (Rhaeadr Gwy)

Mai 26ain – Cyfarfod Tîm Rheoli – Ymddiriedolwyr (Dolgellau)

Mehefin 23ain – Cyfarfodydd Cyngor a Phwyllgor Achlysuron

(Llanfair ym Muallt)

Gorffennaf 28ain – Tîm Rheoli – Ymddiriedolwyr a Swyddogion eraill (Dolgellau)

Hydref 6ed – Tîm Rheoli – Ymddiriedolwyr a Swyddogion eraill (Plas Dolguog)

Tachwedd 3ydd  Cyfarfodydd Cyngor a Phwyllgor Achlysuron (Rhaeadr Gwy)

Cynhaliwyd sawl cyfarfod anffurfiol arall ymysg Ymddiriedolwyr a Swyddogion unigol yn ystod ail hanner y flwyddyn – 5 Golygyddol, 7 ynghylch Achlysuron a threfniadau’r 75ain Pen-blwydd.

Aeth y Cadeirydd i gyfarfodydd Cymdeithas ym Mhen-y-bont ar Ogwr a De Clwyd hefyd, gan siarad yno. Mae’n ddiolchgar am y croeso a gafodd a’r drafodaeth hynod ddifyr a defnyddiol a ddilynodd.

Un o’r pynciau a godwyd oedd sut mae gwneud gwenyna’n fforddiadwy i wenynwyr ieuengach neu lai cefnog. Mae hwn yn bwnc anodd iawn gan y gallai arwain at deimladau o ddiffyg hawl neu y byddai angen rhywbeth y gellid ei ddehongli’n brawf moddion. Derbynnir unrhyw awgrymiadau’n ddiolchgar.  

Mae’r Ymddiriedolwyr a’r Swyddogion eraill wedi gweithio â sawl gwahanol gwmni yn ystod 2018 er mwyn sicrhau cynrychioli a hysbysu CGC a’i haelodau’n dda ar raddfeydd llywodraethau Cymru a’r DU fel ei gilydd. Rydym hefyd yn gweithio â chyrff sydd â diddordebau tebyg neu gydnaws, er mwyn sicrhau y gallwn weithredu â’n gilydd pan fo angen.

Mae rhai o’r cyfarfodydd allanol yr aethpwyd iddynt yn cynnwys rhai’r:

FfCIG (TU) (BHAF (UK))

Mae’r Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn yn gyfarfod a drefnir gan Lywodraeth y DU lle cynrychiolir yr holl Gymdeithasau Gwenyna Cenedlaethol yn ogystal â’r Uned Gwenyn Cenedlaethol, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, milfeddygon gwenyn, ac yn y blaen. Mae’n gyfle i drafod a dylanwadu ar faterion presennol a’r rhai sydd ar y gweill a allent fygwth lles ein gwenyn. Cynhwysir y materion a drafodwyd y llynedd yn fanylach yn adroddiad y Swyddog Technegol.

CGWG (CONBA)

Mae Cyngor y Gymdeithas Wenyna Genedlaethol yn grŵp a fynychir gan holl Gymdeithasau Cenedlaethol Ynysoedd Prydain (gan gynnwys De Iwerddon) a rhydd gyfle i’r fath Gymdeithasau drafod materion sy’n debyg o effeithio ar wenyna.

Rhydd inni gyfle i ddatblygu strategaethau ar y cyd er mwyn delio ag amryw faterion gan gynnwys cynlluniau llywodraeth, gartref ac Ewropeaidd fel ei gilydd.

Mae cadeirydd CGC hefyd yn gadeirydd CGWG hefyd, ar hyn o bryd. Mae CGWG yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn wyneb yn wyneb, a sawl gwaith trwy delegynadledda.

Fforwm Peillwyr Cymru

Mae hwn yn fforwm tan nawdd Llywodraeth Cymru sy’n dwyn ynghyd amryw grwpiau sy’n cynrychioli cyrff sydd â diddordeb mewn diogelu’r amgylchedd gwyllt a gwella rheolaeth tir er budd peillwyr o bob math, o loÿnnod byw i gacwn a gwenyn mêl.

Credwn y bydd unrhyw beth a all wella a dylanwadu ar y tirlun ffisegol a rheolaeth tir ar gyfer unrhyw beilliwr hefyd o fudd i wenyn mêl. Mae’r fforwm yn cyfarfod ddwywaith neu dair y flwyddyn, yn y Drenewydd fel arfer.

Cynrychiolaeth CGC mewn Cyfarfodydd Allanol 2018:

Jenny Shaw (J.S.), John Bowles (J.B.),  Wally Shaw (W.S.), Peter Elvis (P.E.),  Lynfa Davies (L.D.)

Mawrth 20fed –Fforwm Cynghori Ar Iechyd Gwenyn: Efrog  (W.S. a J.B.)

Mawrth 23ain – Tasglu Peillwyr Cymru: Y Drenewydd  (JB a JS.)

Ebrill – CGWG: Harper Adams (JS a JB)

Ebrill 13eg – YCG (WS)

Mehefin 19eg  –   Gwegyfarfod FfCIG  (WS a JB)

Hydref 19eg – Tasglu Peillwyr, Y Drenewydd (JB)

Hydref 24ain – CGWA:  Esher, Surrey (WS)

Hydref 26ain October – DGC: Esher, Surrey (nid aethpwyd yno.)

Tachwedd 22ain – FfCIG: Stoneleigh, Swydd Gaerloyw (WS a JB)

 ADRODDIADAU:

Ysgrifennydd Arholiadau:

Asesiadau Sylfaenol

Safodd 17 ymgeisydd eu Hasesiad Sylfaenol yn 2018 a llwyddasant oll. Nifer yr ymgeiswyr fesul Cymdeithas yw: –

Môn 1
Y Fflint a’r Cylch 5
Abertawe a’r Cylch 3
Caerdydd, Y Fro a’r Cymoedd 1
Aberystwyth 1
Caerfyrddin 1
De Clwyd 1
Maldwyn 4

 

Llongyfarchiadau i’r ymgeiswyr hynny a diolch i’r holl aseswyr, rheolwyr gwenynfeydd y gymdeithas, swyddogion hyfforddi, a phawb arall fu â rhan am eu cymorth wrth drefnu’r asesiadau.

Mae nifer yr ymgeiswyr sylfaenol yn is nag yn 2017 (pryd y llwyddodd 21), ond gobeithiwn y bydd Cymdeithasau’n annog rhagor o aelodau i ystyried sefyll yr arholiad sylfaenol yn y dyfodol.

Dylai’r sawl sydd wedi cwblhau cwrs dechreuwr a chael profiad o reoli gwenyn gydol blwyddyn lawn fod yn barod ar gyfer y sylfaenol, sy’n asesiad ymarferol a gynlluniwyd er mwyn profi gwybodaeth sylfaenol. Ceir y prosbectws ar wefan CGC ac y mae grwpiau astudio anffurfiol a sefydlir o fewn cymdeithasau lleol yn ffordd wych o helpu paratoi ar gyfer y sylfaenol.

Dylid cyflwyno ceisiadau ar gyfer 2019 erbyn y 1af o Fai.

Modiwlau

Mawrth 2018

Roedd 12 i sefyll modiwlau ar y 24ain o Fawrth ac ar y diwrnod aeth 11 yn eu blaenau mewn amryw fannau ledled Cymru, gan gynnwys rhai mannau ychwanegol a drefnwyd yn Llanelwedd (fel y gallai ymgeiswyr a ddymunent ymweld â Chynhadledd Wanwyn CGC fedru gwneud hynny).

Llwyddodd 7, gan gynnwys 6 teilyngdod. Llongyfarchiadau i: –

Modiwl 1

Ron Pethig, Tracy Harper, Kathleen Keirle, Mary Ratcliffe, Peter Warren

Modiwl 2

Kevin Jones, Jane Webber.

Tachwedd 2018

Mae 7 ymgeisydd i sefyll modiwlau ar Dachwedd y 10fed mewn mannau yng ngogledd, de a gorllewin Cymru. Mae’n neilltuol dda gweld ymgeiswyr sydd llwyddo o’r blaen yn bwrw ymlaen i sefyll modiwlau ychwanegol. Mae gennym ymgeiswyr ar gyfer pob modiwl heblaw 7 ac 8 yn Nhachwedd.

Bydd Adroddiad Blynyddol yr Ysgrifennydd Arholiadau, sydd i’w gyhoeddi yn Ionawr, yn cynnwys diweddariad ynghylch modiwlau Tachwedd 2018.

Asesiadau ymarferol

Mae’r ddau asesiad ymarferol newydd a gyflwynwyd gan y Gymdeithas Wenyna Brydeinig: –

  • Tystysgrif Iechyd Gwenyn Mêl
  • Tystysgrif Magu Gwenyn Mêl

Ar gael i ymgeiswyr yng Nghymru ar yr un sail â’r modiwlau a’r asesiadau ymarferol uwch eraill. Efallai yr apeliant i wenynwyr na ddymunant sefyll modiwlau ysgrifenedig, neu fel dewis amgen i Hwsmonaeth Gyffredinol.

Ychydig iawn o ymgeiswyr Hwsmonaeth Gyffredinol fu gennym yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diweddar, ond os oes digon o ddiddordeb efallai y gallwn drefnu diwrnod paratoi er mwyn rhoi i ddarpar-ymgeiswyr syniad da o’r hyn y mae’n ei olygu ac y sydd ei angen. Os yw hwn yn rhywbeth a fyddai o ddiddordeb i chi, e-bostiwch education@CGC.com <mailto:education@wbka.com> os gwelwch yn dda.

Caroline Mullinex

Ysgrifennydd Arholiadau CGC

Hydref 2018

Pwyllgor Achlysuron:

Daeth 415 o ddirprwywyr o ledled Cymru a’r gororau i’r Gynhadledd Wanwyn. Eleni darfu i 43 o Stiwardiaid helpu sicrhau y bu’r gynhadledd yn llwyddiant. Rhoddwyd gwobr y stiward gan C. Wynne Jones ac fe’i henillwyd gan Lynfa Davies.  Roedd yno 4 masnachwr newydd a chyfanswm o 20, ac arddangosfeydd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a Bees Abroad. Gwnaeth y gynhadledd warged o £301.85. Darfu inni barhau i ddefnyddio trydedd neuadd er mwyn caniatáu i ragor o fasnachwyr ymbresenoli.

Cefnogwyd y Gynhadledd Wanwyn gan 13 o aelodau’n stiwardio’r stondin yn gyfochrog â’r Arolygwyr Gwenyn. Hoffwn ddiolch i Graham Wheeler, John Bowles , Keith Hall a Martin Alderson a ddarfu helpu i osod y stondin. Bu’r stondin yn boblogaidd iawn eto gyda’r cyhoedd yn gyffredinol a gwenynwyr o Gymru a thu hwnt.

Yng Ngorffennaf cynhaliwyd penwythnos Gynhadledd y 75ain Pen-blwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Daeth 165 o ddirprwywyr yno o ledled y DU a chyn belled i ffwrdd ag Awstralia! Roedd gennym 10 o siaradwyr yn traddodi 15 darlith, ac 11 gweithdy ynglŷn â 6 gwahanol bwnc. Diolch yn fawr iawn i’r stiwardiaid a chadeiryddion y darlithoedd, yn ogystal â’r tîm gosod sef Keith Davies, Lyn a John Bowles a Graham Wheeler.

 Yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru o’r 23ain hyd y 26ain o Orffennaf roeddem ni ân y babell Arddwriaethol. Eleni ymunasom â’r sir oedd yn noddi, CG Maldwyn. Diolch yn fawr iawn i Keith Hall a Martin Alderson am osod y stondin. Darfu i 18 aelod stiwardio’r stondin.

Mae’r cynllunio ar gyfer Cynhadledd Wanwyn 2019 yn mynd rhagddo. Sicrhawyd y siaradwyr agoriadol a’r prif siaradwyr: Margaret Wilson, Clive Hulson, Professor Robert Pickard a Joyce Nisbet. Unwaith eto, ni fu gan y Pwyllgor Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn, gan nad oedd gan CGC ddirprwy gadeirydd.

 Swyddog Cyhoeddusrwydd:

 Dim adroddiad, swydd wag.

Swyddog Technegol:

Gwasanaeth Arolygu Gwenyn

Mae CGC wedi parhau i weithio’n agos â’r Gwasanaeth Arolygu Gwenyn. Bu rhai newidiadau yn y gweithlu eleni ond llanwyd pob swydd erbyn diwedd y tymor. Ceir adroddiad yr Arolygwr Gwenyn Rhanbarthol ar gyfer Cymru 2018 yma: http://www.nationalbeeunit.com/downloadDocument.cfm?id=1354

Problemau â Breninesau

Ni chlywais unrhyw adrodd (cwynion) am freninesau’n methu eleni. Pe bu problemau, mae’n sicr nad tywydd Mai a Mehefin fu ar fai. Cawsom ychydig fethiannau ond fel arfer roedd y rhain yn gysylltiedig â mam-heidiau neilltuol y tybiwn (er na wyddom yn sicr) y’u heintiwyd â Firws Adain Camffurfiedig – y frenhines, fwy na thebyg.

Chwilen Fach y Cwch (ChFC)

Prin fu newyddion ynghylch ChFC eleni ond ymddengys na fu lledaeniad y tu allan i’r ardal heintiedig yn ne’r Eidal. Ni wnaed datganiad ynghylch newid polisi o ddifa i gyfyngu, er yr ymddengys, wedi 5 mlynedd, mai’r olaf yw’r unig ddewis ymarferol.

Gwenynen Asia (GA)

Canfuwyd a llwyddwyd i ddinistrio pedair nyth gwenyn Asia yn y DU eleni. Dau yn Fowey yng Nghernyw, er mai rhag-nyth bron cwbl adawedig oedd un, felly nid oedd yn hyfyw (dim brenhines). Canfuwyd un arall yn New Alresford yn Hampshire a’r bedwaredd yn Brokenhurst (hefyd yn Hampshire). Dangosodd proffilio DNA dilynol nad oedd yr un o’r heidiau hyn â pherthynas enetig ddigon agos i awgrymu eu bod yn deillio o ffynhonnell gyffredin fewnol (TU). Mewn geiriau eraill, eu bod oll wedi datblygu o freninesau GA a ddaeth i’r wlad yn  annibynnol o’i gilydd. Nid ymddengys y daeth yr un ohonynt o Jersey, lle mae GA wedi hen ymsefydlu.

Newyddion gwell fyth yw nad oedd yn yr un o’r nythod unrhyw arwydd breninesau newydd. Roedd ychydig wrywod yn y nythod, ond roedd gan y mwyafrif ohonynt abnormalrwydd genetig (roeddent yn ddiploidaidd) a olyga ei fod bron yn sicr na allasent lwyddo i gymharu hyd yn oed pe bai brenhines ar gael. Ceir gwrywod diploidaidd yn gyffredin yn Ffrainc ond hyd yma nid yw eu hachos na’u hoblygiadau wedi’i llwyr ddeall. Cafwyd gwybod am sawl gwenynen Asia unigol eleni, ond cyn belled ag y gellir dirnad, ni ddaeth yr un ohonynt o nyth wedi’i sefydlu yn y DU. Mae sawl nodwedd ddiddorol i gyrchoedd GA hyd yn hyn. Yn gyntaf maent oll wedi digwydd yn rhannau cynhesaf y DU (lle mae gwanwyn cynnar, hefyd), ac ni fu’r un nyth yn fawr o’i chymharu â’r rhai a geir yn Ffrainc. Dangoswyd, yn Ffrainc, mai dim ond tua 5% o freninesau GA a gynhyrchwyd ar ddiwedd yr haf sy’n goroesi’r gaeaf ac yn llwyddo i sefydlu nyth y flwyddyn ganlynol.

Awgryma hyn fod llawer rhagor o freninesau wedi eu dwyn i mewn i’r DU ac wedi methu â gwneud nyth. Nid yw’n eglur pa oblygiadau sydd gan hyn at gyfer y dyfodol. Eto, gwenynwyr fu prif ffynhonnell canfyddiadau GA, gan ddefnyddio maglau a chan weld gwenyn Asia’n hofran yng nghyffiniau cychod. Mae angen inni oll ddefnyddio maglau ar adegau addas o’r flwyddyn a bod yn fythol wyliadwrus yn ein gwenynfeydd.

Cyfarfodydd Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn (FfCIG)

Eto, bu llawer o’r trafod yn FfCIG eleni ynghylch BRECSIT. Y rhan fwyaf ohono’n ddyfalu, felly yn yr hinsawdd gwleidyddol presennol, beth alla’i ddweud? Eironig yw bod yr UE wedi penderfynu cynyddu cefnogaeth ar gyfer gwenyna ac wedi cynyddu’r Gronfa Wenynol Gyffredin gan 70%. Golyga hyn, pe baem ni yn yr UE o hyd, y cynyddai ein rhan ni ‘r gronfa o £650 mil i tua £1.1 miliwn!

Nid oes gennyf wybodaeth am fewnforio breninesau a phecynnau gwenyn i’r DU yn 2108. Bu’n cynyddu’n raddol yn ystod y blynyddoedd diweddar, o 4,000 o freninesau yn 2011 i 15,000 yn 2017. Felly wn i ddim a yw’r duedd at y fyny wedi parhau. Eleni cynhaliodd DEFRA arolwg ynghylch sut y mae gwenynwyr yn cael eu breninesau a sawl un sy’n magu breninesau ynteu ar eu cyfer eu hunain ynteu ar gyfer eraill. Mae iddo holl gyfyngiadau arolwg ‘gwirfoddol’ ond o leiaf fe ddangosodd bod amrywiaeth eang o farnau ac ymddygiad. Un canlyniad annisgwyl oedd bod 80%+ o wenynwyr o blaid defnyddio gwenyn lleol, agos-frodorol. O leiaf y mae rhai pobl yn dechrau gweld y goleuni!

Cynhaliwyd Cyfrifiad Cychod Blynyddol eto eleni. Dywedir, yn awr, ei fod ar gyfer llywodraeth y DU, nid ar gyfer yr UE (er mwyn hawlio ein cyfran o’r Gronfa Wenynol). Dangosodd cyfrifiad y llynedd gynnydd bychan yn nifer y cychod o gymharu â 2016, beth bynnag a olyga hynny. Ychydig, o hyd, o wenynwyr sy’n diweddaru eu cofnodion gwenyna pan ofynnir hynny iddynt. Wn i ddim beth yw’r broblem: ystyfnigrwydd pengaled ynteu diogi?

Mae Cynllun Iechyd Gwenyn II (i’w gyflwyno yn 2019) wedi parhau, ond ’does gen i ddim pendant i’w adrodd. Cyfeiriwyd y rhan fwyaf o’r gweithgarwch diweddar at adnabod llwyddiannau’r 10 mlynedd flaenorol a’r prawf (y metrigau bondigrybwyll!). Fel ag erioed, mae’n anodd gwahaniaethu rhwng yr hyn sydd wedi digwydd oherwydd y Cynllun a’r hyn a ddigwyddasai beth bynnag.

Mae cofrestriad gorfodol gwenynwyr eto’n bwnc byw. Mae cymdeithasau gwenyna eraill o’r naill farn neu’r llall ar y mater, ond bu cynrychiolwyr yn wrthwynebus erioed. Nid, o raid, oherwydd egwyddor, ond oherwydd ei fod yn debyg o fod yn wrthgynhyrchiol, gan achosi gwenynwyr sy’n amharod i gofrestru i fynd o’r golwg. Oherwydd y golyga ‘gorfodol’ y byddai’n anghyfreithlon peidio â chofrestru, mae’n amlwg y byddai’n rhaid wrth sancsiynau: ond a ellid eu gorfodi ai peidio sydd gwestiwn arall. Ein barn ni yw y byddai cofrestru gorfodol yn amharu’n ddifrifol ar waith y Gwasanaeth Arolygu Gwenyn a defnydd BeeBase, a dyna sydd bwysicaf. Byddai angen newid meddylfryd gwenynwyr yn llwyr er mwyn i gofrestru weithio o’n plaid ni, ac o farnu yn ôl y drafodaeth yn y Cyngor,  nid yw hynny am ddigwydd yn y dyfodol agos.

Lefelau Varroa 2018

Tybid nad yw’r mwyafrif o wenynwyr wedi cael trafferthion â phoblogaethau uchel o widdon eleni. F’unig esboniad am y sefyllfa ddedwydd hon yw y bu mwyafrif y nythfeydd yn ddi-fag ddiwedd Rhagfyr-ddechrau Ionawr, felly bu triniaethau asid ocsalig, pe’u rhoddid yr adeg honno, yn hynod effeithiol. Bu heigiadau gwiddon tan driniaeth yr hydref hwn yn is o lawer o gymharu â blynyddoedd diweddar. Rhaid imi hefyd roi i chi’r newyddion siomedig fod Vita wedi rhoi’r gorau, o’r diwedd, i’w hymdrech i gofrestru Hopguard yn y DU. Ni allaf ond teimlo bod mymryn o bosibilrwydd y gallai fod a wnelo dylanwad y cwmnïau fferyllol â’r holl anawsterau a wynebodd Vita!

Cyhoeddiad Technegol CGC

Yr oedd llyfryn newydd yn y gyfres CGC o dan y teitl Rheoli Crwybrau i’w ddosbarthu mewn pryd ar gyfer tymor 2018. Yn y diwedd nis danfonwyd tan yr hydref, mwya’r trueni: ond ta waeth, fe wnaiff ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r ‘Cardiau Adnabod Clefydau Gwenyn Mêl’ eto yn yr arfaeth. Wn i ddim am ddyddiad danfon.

Wally Shaw (Swyddog Technegol CGC)

Rhagfyr y 10fed 2018

Swyddog Yswiriant:

 Adnewyddwyd Polisïau Yswiriant Cymdeithas Gwenynwyr Cymru trwy’r un Broceriaid – – Coversure Insurance – o’r 1af o Hydref 2018 ymlaen. Roedd y premiymau ar gyfer y flwyddyn wedi codi gan ychydig llai na 5%.

Mae manylion y Polisi Atebolrwyddau Cyfun sy’n diogelu aelodau yn erbyn risg sy’n codi o’u diddordeb ac unrhyw un a allai godi o’u cynnyrch ar gael ar wefan CGC.

A allaf atgoffa pob Pwyllgor y dylid sicrhau eu bod yn ystyried o ddifrif iechyd a diogelwch unrhyw aelod sy’n gweithredu ar ran y Gymdeithas, ac yn sicrhau eu bod â’r cyfarpar priodol ar gyfer y gwaith a wnânt. Bu trafod mewn llawer i gyfarfod Cyngor ynghylch a yw gwirfoddolwyr i gorff megis y Gymdeithas Leol wedi’u diogelu gan ddeddfwriaeth.

Yr hyn na ellir dadlau yn ei gylch yw’r ffaith fod ein hyswirwyr wedi cynnwys amod ers sawl blwyddyn bellach sy’n mynnu bod gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar ran corff fod â chyfarpar cyflawn a’u bod yn gweithio yn unol ag arferion gweithio diogel. Gallai gweithio ag asidau ocsalig neu fformig fod yn beryglus.

Mae hefyd ddyletswydd gofal pan ymgymeront â gweithgareddau eraill megis defnyddio offer â modur, plaleiddiaid megis chwynladdwyr ac asid ocsalig, a chodi a symud.

Mae angen, felly, inni sicrhau y gwneir ymdrechion rhesymol i gyflawni a chofnodi asesiadau perygl effeithiol, darparu offer diogelu ar gyfer ein gwirfoddolwyr, a diogelu yn erbyn y peryglon mwy difrifol. Gweler yr adroddiad cwta ynghylch Iechyd a Diogelwch a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol.

Hyfforddi Plant

Ni ddarperir sicrwydd yswiriant parthed cosb neu iawndal pe cam-drinnir plentyn neu oedolyn agored i niwed. Dylai fod gan bob un Cymdeithas bolisi sy’n delio a’r peryglon neilltuol a gysylltir â hyfforddi plant neu oedolion agored i niwed. Lle bo hwn yn helaeth dylid ystyried defnyddio’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Pan fo ysgol neu gorff cyffelyb arall yn gofyn am hyfforddiant, eu rhan nhw fydd gofyn am eirda GDG.

Swyddog Iechyd a Diogelwch:

Nodyn atgoffa blynyddol arall ynghylch ein Dyletswydd Gofal, a gofynion ein hyswirwyr, wrth i wirfoddolwyr barhau i baratoi asesiadau risg a awgrymwyd. I’ch atgoffa i sicrhau y dylid adolygu asesiadau risg yn flynyddol a chadw cofnod o newidiadau.

  • Testunau i’w hadolygu a’u hystyried
  • Darpariaethau llesiant mewn gwenynfeydd
  • Gweithio unigol
  • Trafodaethau ynghylch darparu swyddogion cymorth cyntaf mewn cyfarfodydd gwenynfa ac eraill, wedi’u hyfforddi i ddefnyddio Epipen a hunan-chwistrellwyr cyffelyb mewn argyfwng.

Gwyliwch rhag ymdrin â Gwenyn Asia gan y gallant “boeri” gwenwyn yn debyg i forgrug (gwisgwch offer diogelu’ch llygaid).

Nid yw hyn yn ofyniad cyfreithiol, ond gallwn yn wastad roi labelau amlygu ymyrraeth ar botiau mêl a hysbysiadau bonheddig ynghylch beidio â’i fwydo i fabanod.

Rhowch labeli Perygl ar duniau polis sydd ar werth a sylwch fod y rheolau labelu wedi’u newid yn ddiweddar i drefn symbolau Ewropeaidd. Nid yw’r hen sgwâr oren a chroes ddu’n dderbyniol, bellach.

Mae Swyddog Diogelwch CGC yn croesawu gwybodaeth ac enghreifftiau o drefniadau Iechyd a Diogelwch y Gymdeithas. Paratowyd Asesiadau Perygl ar gyfer eu defnyddio mewn cynadleddau a sioeau gan adrannau’n cynllunio’r achlysuron hyn..

Gellir lawrlwytho Polisi Iechyd a Diogelwch Cymdeithas Gwenynwyr Cymru o wefan CGC yn y cyfeiriad canlynol: http://www.wbka.com/wp-content/uploads/2015/06/Health-and-Safety-Policy-Version-1-23-October-2014.pdf (ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd).

Nodyn y Cadeirydd:

Bu John yn oddefgar i’w ryfeddu wrth ysgwyddo baich Cynghorwr Iechyd a Diogelwch i gorff na all ond cynghori ei aelodau i weithredu mewn ffordd ddiogel, ond na all orfodi ei reolau. Y Cymdeithasau Lleol eu hunain sydd i benderfynu sut y maent yn ymddwyn, ond o gofio bod eu hyswirwyr yn mynnu eu bod yn ufuddhau i reolau neilltuol, a hefyd o ran gofal tuag at eich cyd-aelodau sy’n wirfoddolwyr, ni ddylech eu peryglu nhw’n ddiangen.

Nid yw cost y rhan fwyaf o eitemau cyfarpar amddiffynnol sylfaenol, na’i gynnal a’i gadw, yn uchel, ac yn sir gallai Cymdeithasau ei fforddio. Onid yw, yna caniatewch imi ddyfynnu’r hyn yr arferai arolygydd GID ei ddweud: “Oni ferwch chi fforddio ei wneud o’n ddiogel, rhoddwch y gorau i’w wneud o.”

Bu John a minnau’n gweithio ar arweiniad cyffredinol ynghylch agweddau ar gynnal Cymdeithas Wenyna’n ddiogel, a dim ond pwysau eraill sydd wedi f’atal rhag cwblhau’r gwaith hwn. Bu John yn amyneddgar iawn â mi.

Gobeithiaf gwblhau fy rhan i yn hyn erbyn gwanwyn 2019, fel y gellir ei gylchredeg er mwyn derbyn sylwadau.

Gwefeistr CGC:  WBKA.com

Yn ystod 2018 bu’r gwefannau ar gael ac ar agor 99.99%. Delir y wefan ac fe’i cedwir i weithio gan y darparwr gwasanaeth rhyngrwyd lletyol. Mae gwasanaethau ychwanegol ar gael a allent fod o gymorth i ehangu gweithrediad y wefan ar raddfa dechnegol, ac y mae angen rhagor o ymchwil i hynny.

O ganlyniad i sgript wallus yn y cod (na ellid mo’i ganfod) ddechrau mis Chwefror, newidiwyd thema CGC. Nid yw’n eglur a oes a wnelo hyn â diffoddiad y wefan ar ddiwedd 2017. Effeithiodd hynny â nifer yr ymweliadau â’r wefan,  nad yw ond yn dechrau ail-gynyddu ar ddiwedd 2018.

Er mwyn cydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, ychwanegwyd cydrannau.

Efallai fod y newid thema a chyflwyno’r Rheoliad hwn wedi arwain at lai o ymweliadau o gymharu â’r llynedd. Fesul mis, mae nifer yr ymwelwyr gwirioneddol â’r wefan yn 2018 wedi gostwng gan 10%; ond yn gyffredinol, mae tuedd at gynnydd graddol.

Yn ychwanegol, bu newid yn y modd y cyrchir peth cynnwys gwe-lywio dewislenni. Yn benodol, at y gosodiad addysgol dysgu a datblygu, yn unol â chyfarwyddyd cyfarfod pwyllgor addysg CGC ym Mehefin 2018.

Mae teimlad dwyieithog i WBKA.com, lle mae tudalennau cynnwys yn ymddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cyflwynir cynnwys tudalennau unigol, cyhoeddiadau CGC, taflenni ac erthyglau yn y ddwy iaith, lle bo modd.

Cyflenwir y wefan Gymraeg, cymdeithasgwenynwyrcymru.co.uk gan yr un darparwr rhyngrwyd. Mae’r meddalwedd cymunedol wedi derbyn meddalwedd RhGDC ychwanegol wedi’i arddangos trwy gyfrwng y Gymraeg. Ychwanegwyd cynnwys, ond mae eto angen diweddaru’r wefan er mwyn adlewyrchu thema newydd WBKA.com.

Golygydd CGC

Mae cylchgrawn chwarterol GC wedi derbyn dau gyhoeddiad mewnosodol ychwanegol yn ystod y flwyddyn. Yn yr haf mewnosodwyd y llyfryn Rheoli Crwybrau diwygiedig. Yn rhifyn y gaeaf mewnosodwyd y Cardiau Clefydau a Phlâon Gwenyn Mêl.

Mae’r drefn bresennol yn aros yr un fath, er y bu llai o lythyrau i’r golygydd. Ar y cyfan darperir 80% o’r cynnwys sy’n ymddangos yn y cylchgrawn gan aelodau CGC, gan roi cyfle i Aelod-Gymdeithasau a’u haelodaeth rannu gwybodaeth a chyngor â’r gymuned wenynol Gymreig ehangach.

================

Datganiad:  Datgana’r Ymddiriedolwyr iddynt gymeradwyo’r adroddiad   Ymddiriedolwyr uchod

Llofnodwyd ar ran Ymddiriedolwyr yr elusen

Llofnod:

Enw llawn:

Swydd:                                                      Dyddiad: